Newyddion, Mwy o Newyddion

Y Diweddaraf am Restrau Aros

Rydyn ni wedi dileu ein Rhestrau Aros ar ôl llawer o adborth gan ein cwsmeriaid. Dyma fanylion llawn y penderfyniad a'n cynlluniau wrth symud ymlaen.

Rydyn ni'n gwybod o'ch adborth chi y gallen ni wella system ein rhestrau aros. Diolch am barhau i roi'ch adborth i ni er mwyn i ni allu gwella siwrnai'r cwsmer gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen. Wrth i ni fynd ati i ddod o hyd i ateb gwell, rydyn ni wedi cael gwared ar bob rhestr aros ac yn annog ein haelodau i fonitro Ap TLT a bachu'r llefydd wrth iddyn nhw godi. Mae'n bosibl bwcio ar yr Ap neu ffonio ein llinell arbennig ar 01633 627100.

Mewn egwyddor, dylai system y rhestrau aros alluogi aelodau i ymuno â dosbarthiadau llawn wrth i'r llefydd godi. Yn anffodus, nid yw hyn yn digwydd bob tro ac yn aml mae yna lefydd gwag mewn dosbarthiadau. Mae hyn yn achosi tipyn o rwystredigaeth i chi fel cwsmeriaid, i'n hyfforddwyr gwych a hefyd i ni fel sefydliad.

Yn ogystal, os nad yw'r rheiny sydd ar y rhestrau aros ond sydd ddim yn dymuno mynd i ddosbarth mwyach, yn tynnu eu hunain oddi ar y rhestr, gallai unrhyw lefydd gwag barhau i fod yn wag. Rydyn ni'n cydnabod nad yw'r system yn ymarferol i'r rheiny nad oes ganddynt fynediad hwylus at eu negeseuon e-bost.

Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni fynd ati i archwilio gwasanaeth sy'n haws ei ddefnyddio ac sy'n hollol awtomataidd.