Trac a Maes

Mae gennym ddewis o Feysydd y gallwch eu bwcio yn Stadiwm Cwmbrân ac yng Nghanolfan Hamdden Fairwater, ynghyd â thrac rhedeg athletaidd yn y Stadiwm.

Meysydd

Efallai eich bod eisiau cicio pêl gyda'ch ffrindiau, neu efallai bod eich Tîm yn chwilio am rywle i hyfforddi. Gallwn ni ddarparu ar gyfer eich anghenion.

Mae ein meysydd yn cynnwys;
Maes 3G bob-tywydd yn Stadiwm Cwmbrân, sydd wedi ei oleuo'n llwyr gan lifoleuadau ac sydd â maes Futsal ychwanegol.

Mae yna faes Astro Turf maint llawn a oleuir gan lifoleuadau ar gael yn Stadiwm Cwmbrân.

Mae ein maes RedGra yn faes hyfforddi awyr agored ag arwyneb caled, a oleuir gan lifoleuadau, yng Nghanolfan Hamdden Fairwater. Mae'n opsiwn delfrydol os ydy'ch cyllideb yn gyfyngedig.

Mae gennym dri chwrt Tennis awyr agored yng Nghanolfan Hamdden Fairwater. Gellir eu cyfuno hefyd ar gyfer pêl-droed, rygbi tag neu bêl-rwyd awyr agored. Mae'r ardal hon yn arbennig o dda i dîmau ifancach eu hoedran.

Gellir bwcio mwyafrif ein meysydd fel maes llawn neu hanner maes.

TRAC Rhedeg

Mae ein Trac Rhedeg 400 metr yn Stadiwm Cwmbrân ar gael at ddefnydd unigolion neu i'w logi fel clwb AC mae wedi'i gynnwys yn eich aelodaeth.

Bwciwch Nawr

Rydym yn gartref i amrywiaeth o glybiau a grwpiau lleol sy'n defnyddio'n cyfleusterau yn dymhorol. Os ydych chi'n chwilio am leoliad ar gyfer eich clwb/grŵp, cysylltwch â ni i weld beth sydd ar gael. Gallwch logi'r cyfleusterau yn wythnosol hefyd, trwy ein system ar-lein neu'r Ap ffôn symudol.

During the school holidays and inset days, children can come and play on our 3G pitch for just £3.25 per child. Please make sure they bring their own ball. This is subject to availability and is an unsupervised activity.

When using our 3G pitch at Cwmbran Stadium, please ensure you have the correct footwear, metal studs are not permitted.