Newyddion, Newyddion

Y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Ymaelodwch â'n Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac eisiau cefnogaeth gyda'ch iechyd, dewch i siarad â ni.

Mae ein Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn cynnig ymarferion amrywiol, o ansawdd uchel, a chyngor a chefnogaeth i bobl sy'n byw yn Nhorfaen. Ariennir y Cynllun gan Lywodraeth Cymru ac mae'n gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Byrddau Iechyd Lleol.

Mae ein gweithwyr proffesiynol sy'n arwain ymarfer corff yn cynnig rhaglen o ansawdd uchel wedi ei theilwra'n arbennig ar gyfer ein haelodau, er mwyn gwella'u hiechyd a'u llesiant. Maen nhw'n cynnwys:

  • Dosbarthiadau Ymarfer Corff Grŵp
  • Nofio
  • Dosbarthiadau sy'n arbennig i bobl â COPD a Phroblemau'r Galon
  • Sesiynau wedi'u Goruchwylio yn y Gampfa

Cost y cynllun yw £2 y sesiwn, ac mae yna gyfle i symud ymlaen ymhellach at ymarfer corff rheolaidd. 

Mae llawer o bobl eisoes wedi cael budd o'r cynllun, a dyma beth maen nhw wedi'i ddweud:

  • "Roedd yn gyfle da i gwrdd â phobl eraill a oedd yn poeni am yr un pethau â fi"
  • "Roedd y sesiynau yn fy ngorfodi i adael y tŷ a chefais ddiddordeb newydd"
  • "Gwnes ffrindiau newydd a mwynhau'r sgyrsiau a gawson ni"
  • "Rwy'n teimlo lawer yn fwy heini nawr ac yn gallu chwarae gyda fy wyrion yn hirach nawr"

Mae'r Tîm Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yma i'ch helpu i gyrraedd eich nod trwy ymarfer corff ac i gynnig cyngor a chymorth proffesiynol.

Os ydych chi'n teimlo y byddech yn cael budd o'r cynllun, rydych yn 16 neu'n hŷn ac yn addas i ymuno, yna mae arnoch angen siarad â'ch Meddyg Teulu/nyrs y practis/gweithiwr iechyd proffesiynol, ynglŷn â chael eich atgyfeirio.