Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut y mae’r wefan hon yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddwch pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon a sut y byddwn yn diogelu'r wybodaeth honno.

 

Mae Torfaen Leisure Trust Limited wedi ymrwymo i barchu preifatrwydd pawb sy’n ymweld â’n gwefan (www.torfaenleisuretrust.co.uk) a'n Canolfannau. Darllenwch y polisi preifatrwydd canlynol i ddeall sut yr ydym yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni ac yn ei diogelu.

Trwy gofrestru neu bwcio yn ein Canolfannau neu drwy ein gwefan, rydych yn cydsynio i ni gasglu eich gwybodaeth, ei defnyddio a'i throsglwyddo o dan delerau’r polisi hwn.

O dan ddeddfwriaeth newydd y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gallwch weld beth yw'ch hawliau unigol yn https://ico.org.uk/for-the-public/  

Gwybodaeth a gasglwn gennych chi

Pan fyddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol ar ein safleoedd ac yn ymweld â'n gwefan (www.torfaenleisuretrust.co.uk), neu'n llenwi ein ffurflen gyswllt, efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth benodol amdanoch chi'ch hun gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am eich defnydd o’n gwefan yn ogystal â gwybodaeth amdanoch chi o’r negeseuon e-bost neu lythyrau y byddwch yn eu hanfon atom.

Defnyddio'ch gwybodaeth

Bydd eich gwybodaeth yn ein galluogi i roi mynediad i chi i bob rhan o'n Canolfannau a'n gwefan ac i ddarparu'r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt. Bydd hefyd yn ein galluogi i gysylltu â chi lle bo angen. Byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwn, ac yn ei dadansoddi, fel y gallwn weinyddu ein busnes, ei gefnogi, ei wella a'i ddatblygu.

Trwy ymaelodi ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhannu eich data gyda phartïon priodol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen at y diben o brosesu eich debyd uniongyrchol. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon os nad ydynt yn chwarae rhan ym mhartneriaeth Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.

Yn benodol, efallai y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth i gysylltu â chi i gael eich barn am ein gwasanaethau ac i'ch hysbysu o bryd i'w gilydd am newidiadau neu ddatblygiadau pwysig i'n gwasanaethau. Ymhellach, lle rydych wedi cydsynio, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'ch gwybodaeth i roi gwybod i chi am gynhyrchion a gwasanaethau eraill yr ydym yn eu cynnig a allai fod o ddiddordeb i chi. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy’r post neu dros y ffôn yn ogystal â thrwy e-bost. Os byddwch yn newid eich meddwl ynglŷn â chaniatau i ni gysylltu â chi yn y dyfodol, gallwch ofyn am gael tynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.

Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni yn cael ei chadw ar ein cyfrifiaduron yn y DU a gall ein staff, sy’n gweithredu ar ein rhan, gael mynediad ati at y dibenion a nodir yn y polisi hwn neu at ddibenion eraill a gymeradwywyd gennych chi. Efallai y byddwn hefyd yn trosglwyddo gwybodaeth wedi'i chyfuno at drydydd partïon, am eich defnydd o’n gwasanaethau, ond ni fydd y wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi.

 Cwcis

Ychydig bach o wybodaeth yr ydym yn ei storio ar eich cyfrifiadur yw cwcis. Oni bai eich bod wedi nodi eich gwrthwynebiad wrth ddatgelu eich manylion i ni, efallai y bydd ein system yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn mewngofnodi i'r wefan. Mae cwcis yn ei gwneud hi'n haws i chi fewngofnodi a defnyddio'r wefan yn y dyfodol. Maent hefyd yn ein galluogi i fonitro traffig y wefan ac i sicrhau bod cynnwys y wefan yn bersonol i chi. Gallwch osod eich cyfrifiadur i wrthod cwcis er, yn yr achos hwnnw, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio nodweddion penodol ar ein gwefan. Os nad ydych am dderbyn cwcis yn y dyfodol, rhowch wybod i ni, trwy gysylltu â ni yn y cyfeiriad ar waelod y dudalen.

Diogelwch a Chadw Data

Rydym yn defnyddio mesurau diogelu er mwyn diogelu eich gwybodaeth rhag i bobl sydd heb eu hawdurdodi gael mynediad ati a rhag iddi gael ei phrosesu mewn ffordd anghyfreithlon, ei cholli'n ddamweiniol, ei difrodi a'i dinistrio. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod rhesymol neu cyhyd ag sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Mynediad a Diweddaru

Mae gennych yr hawl i weld y wybodaeth a gedwir amdanoch a gallwch ofyn i ni wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i sicrhau ei bod yn gywir ac yn gyfredol. Os dymunwch wneud hyn, cysylltwch â ni. Mae gennym ni hyd at fis i gydymffurfio â'ch cais, ac os na allwn ddelio â'ch cais byddwn yn rhoi rheswm i chi. Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb mae gennych yr hawl i gwyno i’r awdurdod goruchwylio, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn www.ico.org.uk

Dylech gyfeirio ceisiadau am wybodaeth at yr Adran Gweinyddu Busnes yn Stadiwm Cwmbrân drwy’r post neu drwy e-bost: businessadmin@torfaenleisuretrust.co.uk  

Newidiadau i'n Polisi Preifatrwydd

Byddwn yn postio unrhyw newidiadau i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol ar ein gwefan.

Cysylltwch Â

Croesewir unrhyw sylwadau, ymholiadau a cheisiadau sy’n ymwneud â’n defnydd o’ch gwybodaeth a dylid eu cyfeirio at Torfaen Leisure Trust Limited, Stadiwm Cwmbrân, Ffordd Henllys drwy’r post neu drwy e-bost at: enquiries@torfaenleisuretrust.co.uk



Trwy ymaelodi ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, rydych yn cytuno ein bod yn gallu rhannu eich data gyda phartïon priodol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen at y diben o brosesu eich debyd uniongyrchol. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon os nad ydynt yn chwarae rhan ym mhartneriaeth Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.