Cwestiynau Cyffredin
am y System Rheoli Hamdden newydd.

Am ragor o wybodaeth am ein rhesymau dros wneud y newid hwn, cliciwch yma.

Cwestiynau Cyffredin gan Gwsmeriaid

We are now transitioning to our brand new booking system. During the switch over our app and online bookings are unavailable but don’t panic, your sessions will be going ahead as planned, you can just turn up and book at reception, or you can call us on 01633 627100 to pre-book your space.

Fe fydd ein llinellau ffôn yn brysur dros ben a mae ein staff yn gweithio'n galed iawn i symud pawb draw at y system newydd gan darfu cyn lleied â phosibl. Gofynnwn, felly, i chi fod yn amyneddgar, yn garedig ac yn gwrtais gyda'n timau wrth iddyn nhw hefyd addasu at y system newydd. 

Fe fydd ein tîm Cyfryngau Cymdeithasol wrth law i ateb eich cwestiynau felly mae croeso i chi anfon neges atom ar Facebook, Instagram neu X (Twitter)

All existing Torfaen Leisure Trust members need to register their details to be able to use the app and website booking system. Please follow this guide carefully to register your account:

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n awtomatig gyda gwybodaeth ychwanegol. Last updated: 23rd February 2024.

Pwy yw Darparwr y System Rheoli Hamdden?

Xplor sy'n darparu'r System Rheoli Hamdden newydd, sef Legend, ac ystyrir bod hon yn un o'r systemau rheoli hamdden gorau yn y DU. Bydd gweithredu'r system Legend yn trawsnewid profiad aelodau'r Ymddiriedolaeth, clybiau a grwpiau a phartneriaid, yn llwyr.

Sut fydd y newid hwn yn effeithio arna' i?

Bydd y newidiadau yn gwella'ch profiad ac yn ei gwneud yn haws i chi reoli'ch aelodaeth a bwcio gyda ni.

Mae'r newidiadau'n cynnwys:

  • Proses gofrestru gyflymach os ydych yn dymuno ymaelodi.
  • Llwyfan cyfathrebu effeithiol trwy hysbysiadau e-bost a negeseuon atgoffa.
  • Gallwch weld holl opsiynau Aelodaeth Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, ymuno ynddynt a thalu amdanynt trwy'r Ap a'r wefan.
  • Haws gweld dosbarthiadau neu weithgareddau, eu bwcio a thalu amdanynt, pryd bynnag mae'n gyfleus i chi, ar unrhyw ddyfais. 
  • Gallwch weld eich manylion personol, eu rheoli a'u diweddaru. Gallwch fewngofnodi trwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair (bydd gofyn i chi ailosod eich cyfrinair i ddefnyddio'r system newydd a chewch negeseuon i'ch atgoffa maes o law yn dweud wrthych pryd i wneud hyn).
Pryd fydd y system newydd yn fyw?

Fe fydd y system yn mynd yn fyw ar 21 Chwefror 2024, ac wrth i ni symud at y system newydd fe fydd cyfnod o amser pan fydd yn rhaid tarfu ar y system bwcio.

Gallwch bwcio unrhyw weithgareddau, hyd nes 20 Chwefror, ac yn cynnwys y dyddiad yma, ond ni fyddwch yn gallu bwcio unrhyw beth ar gyfer 21 Chwefror a'r dyddiadau ar ôl hyn, hyd nes bod ein system newydd ar waith ar 22 Chwefror.

Cofiwch, felly, y bydd unrhyw weithgareddau ar 21 Chwefror yn golygu 'troi i fyny a bwcio' ac felly y cyntaf i'r felin fydd hi. 

Cofiwch y bydd ein staff yn ymgyfarwyddo â'r feddalwedd newydd ac felly byddem yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y diwrnodau cyntaf wrth iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r system newydd. Fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y newidiadau'n digwydd mor llyfn â phosibl ac yn tarfu cyn lleied â phosibl.

A fydd hyn yn effeithio ar y defnydd o'r Ap?

Bydd yr Ap Symudol a'r porth bwcio ar-lein yn cael eu diffodd ar 21 Chwefror er mwyn i ni allu gwneud y newidiadau gofynnol.

Fe fyddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod hyn yn cymryd cyn lleied o amser â phosibl wrth i ni newid rhwng systemau, a rhagwelwn y bydd y gwasanaeth llawn yn ôl ar 23 Chwefror.

Unwaith fydd yr ap yn barod i'w defnyddio, bydd angen i chi ail-gofrestru eich cyfrif. Byddwn yn anfon y ddolen allan ar ein Cyfryngau Cymdeithasol ac yn adran Newyddion yr Ap felly cadwch eich llygaid yn agored am yr hysbysiad hwn.

  1. Yn gyntaf, cliciwch ar y botwm "Cofrestru".
  2. Yna, bydd ffenestr yn agor er mwyn i chi roi'ch cyfeiriad e-bost a chreu cyfrinair.
  3. Wedi cadarnhau'r amodau a thelerau, cliciwch ar y gair glas "Cofrestru".
  4. Yna cewch neges "Cadarnhau eich cofrestriad" trwy e-bost. Yn yr e-bost, mae yna ddolen er mwyn cadarnau'r broses.
  5. Wedi i chi glicio ar y ddolen, cewch eich tywys yn ôl i'r gwasanaethau ar-lein a gofynnir i chi roi'r cyfrinair yr ydych newydd ei greu.
  6. Wedi i chi roi'r cyfrinair, bydd angen i chi gysylltu eich cyfrif ar-lein at eich aelodaeth. Er mwyn gwneud hyn rhowch eich rhif aelodaeth neu rif cod bar ac un o'r canlynol:
        1. Cod Post
        2. Dyddiad Geni
        3. Rhif Ffôn
  7. Wedi i chi gwblhau'r camau hyn, bydd eich cyfrif ar-lein yn cael ei gysylltu at eich aelodaeth a byddwch yn gallu dechrau bwcio. Byddwch hefyd yn cael neges trwy e-bost i gadarnhau.
A fydd angen i mi lawrlwytho'r Ap eto?

Na, ni fydd angen i chi lawrlwytho'r ap eto. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein er mwyn defnyddio'r ap o 23 Chwefror 2024. Fe fyddwn ni'n gosod y ddolen gofrestru ar ein Cyfryngau Cymdeithasol ac ar adran Newyddion yr Ap, felly cadwch eich llygaid yn agored.

Yn rhan o'r broses gofrestru hon, bydd gofyn i chi ailosod eich cyfrinair. 

A fydd fy nghyfrif yn cael ei drosglwyddo at y system newydd?

Fe fyddwn yn symud ein holl gwsmeriaid sydd â thanysgrifiadau byw at y system newydd, ac fe fydd hyn yn cynnwys;

  • Aelodaeth Debyd Uniongyrchol
  • Aelodaeth Flynyddol
  • Cardiau Misol Cyfredol
  • Plant sy'n cael Gwersi Nofio

Fe fydd gofyn i bob defnyddiwr talu-wrth-fynd a phob defnyddiwr achlysurol i greu cyfrif newydd.

A fydd angen cofrestru arnaf er mwyn defnyddio'r system newydd?

Bydd. Gyda'r system newydd, bydd gofyn i bob defnyddiwr gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein er mwyn gallu bwcio gweithgareddau trwy'r ap neu borth bwcio'r wefan.

Gweler y camau isod y bydd gofyn i aelodau eu dilyn er mwyn iddynt allu bwcio ar-lein. 

  1. Yn gyntaf, cliciwch ar y botwm "Cofrestru".
  2. Yna, bydd ffenestr yn agor er mwyn i chi roi'ch cyfeiriad e-bost a chreu cyfrinair.
  3. Wedi cadarnhau'r amodau a thelerau, cliciwch ar y gair glas "Cofrestru".
  4. Yna cewch neges "Cadarnhau eich cofrestriad" trwy e-bost. Yn yr e-bost, mae yna ddolen er mwyn cadarnau'r broses.
  5. Wedi i chi glicio ar y ddolen, cewch eich tywys yn ôl i'r gwasanaethau ar-lein a gofynnir i chi roi'r cyfrinair yr ydych newydd ei greu.
  6. Wedi i chi roi'r cyfrinair, bydd angen i chi gysylltu eich cyfrif ar-lein at eich aelodaeth. Er mwyn gwneud hyn rhowch eich rhif aelodaeth neu rif cod bar ac un o'r canlynol:
        1. Cod Post
        2. Dyddiad Geni
        3. Rhif Ffôn
  7. Wedi i chi gwblhau'r camau hyn, bydd eich cyfrif ar-lein yn cael ei gysylltu at eich aelodaeth a byddwch yn gallu dechrau bwcio. Byddwch hefyd yn cael neges trwy e-bost i gadarnhau.
A fydd fy rhif aelodaeth/rhif adnabod yn newid?

Ni fydd rhifau aelodaeth yn newid i aelodau sydd eisoes yn fyw ac yn cael eu symud draw at y system newydd. 

Bydd cwsmeriaid achlysurol yn cael rhif aelod newydd wrth greu eu cyfrif newydd. 

Beth fydd yn digwydd gyda fy nebyd uniongyrchol?

Fe fydd eich Debyd Uniongyrchol yn symud draw at y system newydd a bydd eich Debyd Uniongyrchol yn cael ei gymryd ar y 1af o'r mis.

Bydd ein haelodau cyfredol yn cael neges e-bost i ddweud wrthynt am y newidiadau i fanylion y cyfrif (os nad oes gennym gyfeiriad e-bost ar eich cyfer, fe fyddwn yn postio'r llythyr at eich cyfeiriad cartref):

Bydd Xplor yn casglu'r taliadau Debyd Uniongyrchol. Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen oedd yn arfer eu casglu.

O 1 Mawrth 2024 bydd Rhif Defnyddiwr y Gwasanaeth yn newid o 296358 i 454026, ac fe fyddwch chi'n sylwi bod yr enw ar eich mantolen banc yn newid o Torfaen Leisure i DFC re Torfaen LT.

RHYBUDD PWYSIG

O 1 Mawrth 2024, bydd eich taliadau'n cael eu casglu ar y 1af o bob mis.

Y newyddion da yw nad oes angen i chi wneud unrhyw beth. Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar y gwasanaeth y byddwch yn ei gael mewn unrhyw ffordd. 

Sut fyddaf yn gallu mynd ati i ddefnyddio'r system newydd?

Fe fydd gofyn i aelodau cyfredol Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen ail-gofrestru er mwyn defnyddio'r system newydd gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar eich cyfer ar hyn o bryd, ynghyd â'ch rhif aelodaeth. Os oes angen cadarnhau eich cyfeiriad e-bost/Rhif aelodaeth, yna cysylltwch â'r Tîm Bwcio neu galwch heibio i'r Dderbynfa - 01633 627100

A fydd hyn yn effeithio ar Borth yr Academi Nofio?

Bydd. Rydyn ni yn y broses o ddiweddaru ein Porth ar hyn o bryd ac fe fydd yn gweithio gyda'n system newydd. Fe fydd rhywfaint o darfu a bydd rhaid i ni newid rhywfaint o'r system ein pen ni, felly byddwch yn amyneddgar â ni yn ystod y cyfnod hwn. Fe fyddwn ni'n eich diweddaru am y broses hon.