Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen

Ein Diben

Buddsoddi i drawsnewid bywydau a'u gwella.

Ein Gweledigaeth

Darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf sy'n trawsnewid lles ein cymuned.

Amdanom ni

Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen (YHT) yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac mae ganddo statws elusennol (rhif elusen gofrestredig 1152301). Mae bod yn elusen yn golygu bod yr holl arian a dderbynnir gan ein cwsmeriaid yn cael ei ail-fuddsoddi i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer cymuned Torfaen.
Mae YHT yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau hamdden ar draws Bwrdeistref Torfaen.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaethau ar 5 safle:

    • Canolfan Byw Egnïol Bowden
    • Stadiwm Cwmbrân
    • Canolfan Hamdden Fairwater
    • Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl
    • Snowsport Torfaen
Mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned gyfan ac yn cynnig dewis eang o weithgareddau yn ein cyfleusterau, naill ai gan YHT neu gan ystod eang o bartneriaid. Fel sefydliad, mae YHT yn ymfalchïo yn y ddarpariaeth hon ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth rhagorol ar gyfer ein cwsmeriaid, ynghyd ag angerdd a balchder ym mhopeth a wnawn ar gyfer y gymuned.

Ein Diben

Buddsoddi i drawsnewid bywydau a'u gwella.

Ein Gweledigaeth

Darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf sy'n trawsnewid lles ein cymuned.

Ein Blaenoriaethau Strategol

    • Ein hamgylchedd
    • Ein pobl
    • Eich cymuned / Eich Ymddiriedolaeth
    • Ein Gwasanaethau
    • Ein Twf.

Cwrdd â'n Tîm Rheoli

Ben Jeffreys

Prif Swyddog Gweithredol

Ymunodd Ben Jeffreys ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen fel Prif Swyddog Gweithredol ym mis Ionawr 2023.

Fel arweinydd y sefydliad, ef sy'n gyfrifol am roi cyfeiriad strategol ac arweiniad wrth weithredu gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth, ei gwerthoedd a'i blaenoriaethau strategol, er mwyn sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i ddarparu dewis eang o weithgareddau iechyd a lles ar draws y fwrdeistref.

Cyn cymryd y rôl gyda ni, efallai y cofiwch ei weld yn ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredol Clwb Rygbi Pont-y-pŵl, swydd y bu ynddi ers 10 mlynedd.

Mae rolau blaenorol Ben yn cynnwys Cadeirydd Mind Torfaen Blaenau Gwent, Aelod o Fwrdd Mental Health First Aid Wales a Rheolwr Rhaglen Dros Dro Amser i Newid Cymru a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Mind Cymru.

Mae cymwysterau Ben yn cynnwys MSc Marchnata Strategol, BA (Anrh) Cynhyrchu yn y Cyfryngau gyda Marchnata ac mae hefyd yn Chart.PR trwy Sefydliad Siartredig Cysylltiadau â'r Cyhoedd.

Mae Ben yn aelod gweithgar arall o'n Tîm ac mae ei ddiddordebau'n cynnwys Beicio, Golff a bod yn aelod o Glwb Bowlio Pontypool Park Girlings.

Andy Robinson

Pennaeth Hamdden

Ymunodd Andy ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn gynnar yn 2022 er mwyn parhau i ddatblygu ei yrfa ac i ennill profiad mewn rôl mwy strategol.

Pennaeth Hamdden yw rôl bresennol Andy.

Wedi iddo ddechrau yn ei rôl gyntaf ym maes hamdden fel Cynorthwy-ydd Campfa, aeth ymlaen i fod yn Rheolwr Campfa yn ei Ganolfan Hamdden leol cyn cael dyrchafiad i rôl Rheolwr Cynorthwyol, Rheolwr y Ganolfan ac yna goruchwylio dwy Ganolfan.

Mae wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda phobl dalentog iawn. Dydych chi ddim yn gwybod pryd fydd y cyfle nesaf yn codi ac, yn yr un modd, dydych chi ddim yn gwybod pwy sy'n eich gwylio chi ac ar bwy yr ydych chi'n creu argraff wrth weithio.

Mae Andy'n frwdfrydig iawn ynghylch ei deulu a nifer o gampau, yn enwedig tîm Newcastle United. 

Mae wedi bod wrth ei fodd erioed â chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac arweiniodd y diddordebau hyn at radd mewn Gwyddor Chwaraeon o Brifysgol Portsmouth.

Mae Andy yn edrych ymlaen at barhau i ddysgu mwy am Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a sut y gall effeithio ar ddatblygiad y sefydliad a'i dŵf yn y dyfodol.

Eleanor Roberts

Rheolwr Cyffredinol

Helô, Eleanor ydw i, y Rheolwr Cyffredinol newydd yma yn Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen. Cyn cymryd y rôl fel Rheolwr Cyffredinol roeddwn yn Rheolwr Lles ac yn gofalu am bopeth yn ymwneud ag iechyd a ffitrwydd. Mae fy nghefndir mewn Gwyddor Chwaraeon ac Arweinyddiaeth ym maes Chwaraeon.

Rwy’n byw yn Nhorfaen ac mae gennyf atgofion melys iawn fel plentyn yn chwarae pêl-rwyd yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl. Yno y datblygais fy angerdd dros chwaraeon ac roedd hyn yn gymorth i fi gyflawni un o fy mreuddwydion, sef cynrychioli Cymru yng Ngêmau’r Gymanwlad 2022.

Rwy’n teimlo’n gyffrous wrth weld sut mae chwaraeon, ffitrwydd ac ymarfer corff yn effeithio’n gadarnhaol ar les ein haelodau, a dyna un o’r rhesymau pam yr wyf mor falch o weithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.

Natalie Scarrott

Pennaeth Gwasanaethau

Natalie Scarrott yw ein Pennaeth Gwasanaethau ac fe ymunodd â'r Ymddiriedolaeth ym mis Mai 2022.

Mae'n gyfrifol am osod y safonau a'r prosesau er mwyn sicrhau bod Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn darparu gwasasnaethau rhagorol i gwsmeriaid ar bob adeg.

Mae gan Natalie dros 25 mlynedd o brofiad o ddatblygu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid ac mae'n mwynhau hyfforddi a mentora pobl eraill i'w helpu nhw i wireddu eu potensial. Treuliodd 15 mlynedd yn gweithio i Ymddiriedolaeth Hamdden yn Ne Swydd Gaerloyw ac mae ei gwaith yn fwy o ffordd o fyw erbyn hyn.

Mae Natalie wedi ennill Belt Du Tae-kwon-do ac er nad yw'n cymryd rhan yn y gamp mwyach mae'n frwdfrydig iawn ynghylch defnyddio'r gampfa gyda'r nod o fyw bywyd iachach.

Mae wrth ei bodd yn teithio a'i hoff le yw De Affrica. Pan na fydd yn cynllunio'i hantur nesaf neu'n gwylio'r Springboks yn chwarae byddwch chi'n siŵr o ddod o hyd i Natalie yn y sinema!