AM DDIM - Lawrlwythwch ein Ap Ffôn Symudol

Mae ein Ap Ffôn Symudol yn ffordd hawdd a chyfleus o weld eich Dosbarthiadau a'ch Gweithgareddau Ymarfer Corff Grŵp a'u bwcio, ac mae ganddo'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi fel cwsmer Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen!

  
  • Edrychwch ar yr amserlenni, gan gynnwys Nofio a'n dewis helaeth o ddosbarthiadau Ymarfer Corff Grŵp
  • Bwciwch Gwrt, gan gynnwys Tennis Bwrdd, Sboncen, Badminton a Phêl-droed!
  • Bwciwch eich lle mewn cymaint o ddosbarthiadau Ymarfer Corff Grŵp ag y dymunwch, gan sicrhau eich bod yn cael eich lle!
  • Mynediad hwylus at y sesiynau rydych chi wedi eu bwcio ar-lein ar y dudalen 'My Bookings'
  • Gallwch osod y sesiynau yr ydych wedi eu bwcio yng nghalendr eich ffôn, er mwyn i chi fod yn hynod o drefnus
  • Cewch wybod am yr holl ddigwyddiadau a chynigion sydd ar droed, trwy hysbysiadau uniongyrchol i'ch ffôn symudol
  • Mynediad i wybodaeth am y Canolfannau gan gynnwys oriau agor, manylion cyswllt a gweithgareddau ar draws Ymddiriedoaleth Hamdden Torfaen.

Os ydych yn lawrlwytho Ap Ffôn Symudol Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen rydych yn cytuno i'n Hamodau a Thelerau Bwcio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y rhain cyn bwcio unrhyw weithgareddau trwy'r Ap: