Ein Campfeydd

Mae ein Hystafelloedd Ffitrwydd yn cynnig dewis eang o offer hyfforddi Cardio, Ymwrthedd a Phwrpasol a geir gan Technogym, sy'n gwmni lles sy'n arwain y farchnad.

Yr hyn sydd gan YHT Ar Eich Cyfer Chi

Our Gyms are stocked with state-of-the-art Technogym equipment and our friendly Fitness Colleagues are on hand to make the most out of your fitness goals and session.

Manteisio i'r Eithaf ar yr OPSIYNAU AELODAETH

Gallwch fynd i'r Gampfa a 'thalu wrth fynd' NEU mae gennym becynnau aelodaeth gwych i unrhyw un sydd am hyfforddi gyda ni'n rheolaidd.

Ystafell Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff

Mae ein Hystafell Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl yn gyfleuster hyfforddi o'r radd flaenaf sy'n addas i gefnogi rhaglenni chwaraeon llawr gwlad ac elitaidd. Rydym wedi gofyn i ddarpariaethau Cryfder a Chyflyru blaenllaw yn y DU i gynnig argymhellion, er mwyn sicrhau ein bod yn dewis ystod o offer sy'n cyd-fynd ag arddulliau hyfforddi, o CrossFit i godi pwysau Olympaidd.

Pan fydd mynediad i'r cyhoedd, bydd yr Ystafell Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff ar gael at ddefnydd pobl 16+ oed yn unig. Os ydych wedi gwneud trefniadau preifat ac mae yna hyfforddwyr â chymwysterau penodol yn bresennol, yna mae oedolion ifanc 11+ oed yn cael defnyddio'r Ystafell Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff.

Mae offer yn cynnwys:

  • Platfformau Codi
  • Trac Sbrint 10m
  • Offer sled a thanc
  • Hanner Raciau gydag ystod lawn o Blatiau Pwysau
  • Adran pwysau codi (dymbelau) yn amrywio o 2.5kg i 50kg
  • Ystod eang o Offer â Phwysau Plât
  • Peiriant SkiErg
  • Beiciau Antur
  • A LLAWER MWY!

Rydym yn annog clybiau a grwpiau lleol i ddefnyddio'r ardal i'w helpu gyda'u hyfforddiant. Gallwch ddewis trefnu sesiwn gydag un o'r hyfforddwyr cymwys neu hebddynt. Cysylltwch â ni am brisiau ac argaeledd:

HYFFORDDIANT

PERSONOL

Diffyg ysgogiad? Hyfforddi ar gyfer digwyddiad penodol? Eisiau colli pwysau? Eisiau magu'ch cryfder?
Mae gan ein Hyfforddwyr Personol arbenigedd rhagorol i'ch helpu ar eich taith.

Mae ein Hyfforddwyr Personol yn gweithio yn Stadiwm Cwmbrân a Chanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl ac yn barod i gymryd eich galwadau.

Ross Gower

Hyfforddwr Personol
gowerpt@gmail.com

07581375298

Nicola Doble

Hyfforddwr Personol
nicoladoblept@gmail.com

07816 255846