Newyddion, Mwy o Newyddion

MOT Iechyd a Lles Am Ddim

Mae ein MOTs Iechyd a Ffitrwydd Newydd Sbon ar gael i'w bwcio nawr! Mae'r sesiynau hyn gyda'n gweithwyr ffitrwydd proffesiynol.

Rydyn ni wedi lansio ein MOTs Iechyd a Ffitrwydd RHAD AC AM DDIM yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl ac yn Stadiwm Cwmbrân. Mae ein peiriant NEWYDD SBON sy'n dadansoddi cyfansoddiad y corff yn gallu gweld sut y mae'ch corff yn gweithio ar gyfer eich grŵp oedran chi. Bydd yn gymorth i dynnu sylw at unrhyw gyfyngiadau neu faterion iechyd posibl, nawr neu yn nes ymlaen yn eich bywyd, ac i ragweld materion o'r fath. Bydd ein Tîm Ffitrwydd Proffesiynol yn rhoi canllawiau i chi ar gyfer maeth, ymarfer corff a ffordd o fyw, a hynny mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar. Llesiant y gymuned leol yw ein prif flaenoriaeth, ac er mwyn eich cael chi i deimlo'r gorau y gallwch chi deimlo ac ar y trywydd cywir, rydyn ni'n cynnig ein MOT Iechyd a Ffitrwydd cynhwysfawr yn RHAD AC AM DDIM!

Bydd eich dadansoddiad corfforol InBody yn gwneud dros ugain o brofion llesiant gan gynnwys:

  • Calorïau a Ddefnyddir wrth wneud Ymarfer Corff
  • Dadansoddiad Fesul Segment
  • Hanes o Gyfansoddiad y Corff
  • Dadansoddiad o Fraster Perfeddol
  • Cymhareb Cyhyrau:Braster
  • Cymhareb Gwast:Clun
  • Dadansoddiad Gordewdra
  • Sgôr InBody
  • Cyfanswm y Dŵr
  • Pwysau

Dewch i ni gael edrych ar eich iechyd ar hyn o bryd a'ch rhoi chi ar ben ffordd ar eich siwrnai ffitrwydd - PEIDIWCH Â PHOENI, dydy'r profiad ddim yn un poenus!

Cysylltwch â'n Tîm ar 01633 627100 neu bwciwch ar ein Ap ffôn symudol.