Newyddion, Newyddion

Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn Penodi Prif Weithredwr Newydd

Mae Ben Jeffreys wedi’i benodi’n Brif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.

Roedd Ben yn arfer bod yn Brif Swyddog Gweithredol Clwb Rygbi Pont-y-pŵl ond fe ddechreuodd yn ei rôl newydd gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen ym mis Ionawr 2023. Yn y rôl hon mi fydd yn allweddol wrth weithredu strategaeth uchelgeisiol y cwmni.
strategy.

Treuliodd Ben dros 10 mlynedd gyda Chlwb Rygbi Pont-y-pŵl. Fel Cyfarwyddwr Masnachol yn gyntaf ac yna fel Prif Swyddog Gweithredol o 2014.

Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yw'r unig elusen sy'n canobwyntio ar iechyd, ffitrwydd a lles pob cenhedlaeth yn Nhorfaen. Ei chenhadaeth yw darparu gweithgareddau ffitrwydd a lles o'r radd flaenaf o'i phum canolfan hamdden - Stadiwm Cwmbrân, Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl, Canolfan Hamdden Fairwater, Canolfan Byw Egnïol Bowden a Chanolfan Sgïo Pont-y-pŵl.

Ganed Ben yng Nghasnewydd ac roedd yn gyffrous i ddechrau yn ei rôl newydd. Meddai:

"Rwy'n hynod o ddiolchgar i gael y fraint o arwain Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen ar adeg mor gyfforus ac allweddol, ac yn cydnabod y cyfrifoldeb sy'n dod gyda'r rôl."

"Rwy'n ymrwymo i fod yn Brif Swyddog Gweithredol sy'n ymgysylltu ac yn cydweithio, sy'n weladwy ac sy'n arddangos y gwerthoedd yr wyf yn eu rhannu gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen - yn ddi-os, lles cydweithwyr a chwsmeriaid fydd fy mlaenoriaeth bennaf ar bob adeg.

"Â minnau wedi gweithio wrth galon chwaraeon yn Nhorfaen dros y ddegawd ddiwethaf, rwy'n deall y dirwedd heriol ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu â grwpiau a chlybiau chwaraeon lleol er mwyn sicrhau bod Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn parhau i chwarae rhan gefnogol wrth hyrwyddo cyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon a llesiant yn Nhorfaen.

"Fy uchelgais yw meithrin partneriaethau cryf sy'n para, gyda rhanddeiliaid allweddol, a dod o hyd i gyfleoedd newydd sydd â ffocws ar sicrhau bod Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn chwarae rhan bwysig wrth wella iechyd a lles pawb yn Nhorfaen a bod y rhan honno'n ehangu ac yn ymestyn drwy'r amser. Rwy'n dymuno gwella profiad cwsmeriaid a rhanddeiliaid sydd gennym yn barod ond rwyf hefyd eisiau dod o hyd i ffyrdd o annog y rheiny sydd ddim yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau llesiant ar hyn o bryd yn Nhorfaen er mwyn iddyn nhw deimlo bod gan Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen rywbeth i'w gynnig i bawb - waeth ar ba gam y maen nhw ar eu siwrnai iechyd a lles.

"Mae'r cyfle i weithio gyda'r Bwrdd, i gyflawni cynllun strategol Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, yn fy nghyffroi. Ond, rwyf hefyd yn cydnabod yr heriau y mae'r Ymddiriedoaleth a'r gymuned ehangach yn Nhorfaen yn eu hwynebu wrth adfer ar ôl COVID-19 ac wrth i ni geisio ffeindio'n ffordd trwy argyfwng costau byw digynsail. Mae gan Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen ran allweddol i'w chwarae wrth gefnogi iechyd a lles trigolion Torfaen ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda phob rhanddeiliad er mwyn sicrhau bod yna gyfleoedd i'r gymuned gadw cysylltiad trwy gyfnod heriol y gaeaf sydd o'n blaenau. Mi fydd hi'n hanfodol i'r Ymddiriedolaeth gadw ffocws strategol a bod yn ddigon hyblyg i addasu at rymoedd micro a macro ar bob adeg, er mwyn sicrhau bod modd i aelodau, grwpiau a rhanddeiliaid gadw cysylltiad ag Ymddiriedoaleth Hamdden Torfaen, ei chyfleusterau a'i gwasanaethau."

Meddai Sam Heighway, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen:

"Ar ran y bwrdd, hoffwn longyfarch Ben a'i groesawu i'r tîm. Yn dilyn proses gyfweld gystadleuol, roeddem wrth ein boddau i gynnig rôl y Prif Swyddog Gweithredol i Ben. Roedd yn gallu dangos bod siwrnai glir a chyffrous ganddo mewn golwg ar gyfer y sefydliad, ac rydym yn edrych ymlaen at ei groesawu'n ffurfiol ac at weld y sefydliad yn tyfu ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i'n cymunedau."

Ar gyfer ymholiadau'r wasg, cysylltwch â Bethan Lewis, Brandrocker ar 07814663957 bethan@brandrocker.co.uk