Newyddion, Newyddion

Partneriaeth Parkrun NERS

Mae Tîm Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) Torfaen yn gyffrous iawn wrth gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Parkrun Pont-y-pŵl a Chwmbrân. Dyma'r bartneriaeth gyntaf o'r fath yn y Deyrnas Unedig!

Bydd cyfle nawr i'r rheiny sy'n cael eu hatgyfeirio at NERS i gymryd rhan yn ras Parkrun tra'u bod ar y rhaglen atgyfeirio i wneud ymarfer coff. Dyma gyfle i unigolion fanteisio ar gyfleusterau YHT a mwynhau'r awyr agored ar yr un pryd. Nod yr ymarfer corff cyfunol hwn yw cael cymaint o bobl i fod mor actif â phosibl.

I rai, y cam cyntaf haws yw gwirfoddoli ar gyfer rôl statig, "Cerddwr Cynffon" sef rôl wirfoddol yn y cefn, neu fel "Cerddwr Parc" sy'n rôl newydd i annog cerddwyr eraill wrth iddynt gerdded o amgylch y llwybr. Mae hefyd yn iawn i chi ddod a gwneud beth bynnag a fynnwch chi - rhedeg, cerdded neu loncian.

Anogir unrhyw un sydd eisiau cerdded mewn amgylchedd diogel a chymryd rhan mewn gweithgaredd gwyrdd yn yr awyr agored, i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn. Mae'n berffaith hefyd i'r rheiny sydd eisiau dechrau rhedeg eto (Soffa i 5k).

Gellir atgyfeirio cleientiaid addas ar y rhaglen Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ar ôl y 4 wythnos gychwynnol ar y cynllun.  

Am ragor o wybodaeth am Raglen Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Torfaen cliciwch yma:

Atgyfeiriadau ar gyfer Ymarfer Corff

Gallwch ddod o hyd i'ch Parkrun agosaf yma:

https://www.parkrun.org.uk/