Newyddion, Newyddion

Lansio'r Cyfleuster Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl

Rydyn ni'n llawn cyffro wrth gyhoeddi ein bod yn lansio Ystafell Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff NEWYDD SBON yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl sydd yn y cyfleuster Treasure Island gwreiddiol. Rydyn ni wedi ailwampio'r ystafell ac wedi prynu offer masnachol o ansawdd uchel iawn er mwyn darparu cyfleuster hyfforddi sydd gyda'r gorau ac sy'n addas i gefnogi rhaglenni chwaraeon llawr gwlad ac elitaidd. Rydyn ni wedi cael argymhellion gan gyfleusterau Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff blaenllaw yn y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig dewis o offer sy'n cyd-fynd ag arddulliau hyfforddi pob un, o CrossFit i godi pwysau ar lefel Olympaidd. Rydyn ni'n gyffrous iawn wrth ddod â darpariaeth o'r fath i Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a chymuned Torfaen, a thu hwnt!

Cyflawnwyd y prosiect hwn yn rhannol trwy gymorth grant gan Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, mae hefyd wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth ein cwsmeriaid anhygoel. Diolch i'ch teyrngarwch chi, rydyn ni wedi gallu ail-fuddsoddi a chyfrannu at y gost o ddarparu'r cyfleusterau hyn diolch i bob ceiniog yr ydych chi'n ei gwario yn ein canolfannau.

Meddai ein Rheolwr Cyffredinol, Eleanor Roberts:

"Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r Ystafell Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl! Cyflawnwyd y prosiect hwn oherwydd yr arlwy cyfyngedig sydd gennym yn Nhorfaen ac yn y gymuned ehangach ar gyfer perfformwyr chwaraeon llawr gwlad ac elitaidd ac i gynnig cyfleusterau o ansawdd uchel i gefnogi'r holl weithgareddau chwaraeon. Edrychwn ymlaen at gyflwyno'r cyfleuster i'n clybiau a'n grwpiau, sy'n annwyl iawn i ni, er mwyn iddyn nhw fanteisio a bwcio'n breifat, i gyfoethogi eu rhaglenni hyfforddiant presennol. Edrychwn ymlaen hefyd at groesawu ein haelodau presennol yn rhan o'u haelodaeth er mwyn iddyn nhw gael cyfle i hyfforddi yn yr Ystafell Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff yn y ffordd sydd orau ganddyn nhw ac fel budd ychwanegol i aelodau Ymddiriedoaleth Hamdden Torfaen."

Meddai ein Rheolwr Ffitrwydd, Jamie Baber:

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddefnyddio'r Ystafell Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff er mwyn cyfoethogi'r hyn sydd gennym i'w gynnig i'n haelodau! Byddwn yn ychwanegu dosbarthiadau yn yr Ystafell at ein rhaglen ac yn darparu rhaglenni 8-10 wythnos i helpu cwsmeriaid presennol yn ystod sesiynau mynediad cyhoeddus. Os hoffech chi gael cipolwg ar y cyfleusterau ac ymaelodi gydag un o'n pecynnau gwych, galwch heibio a siaradwch ag aelod o'n tîm."

Mathau o Offer

  • Platfformau Codi
  • Trac Sbrint 10m
  • Offer sled a thanc
  • Hanner Raciau gyda dewis llawn o Blatiau Pwysau
  • Adran pwysau codi (dymbelau)
  • Dewis eang o Beiriannau â Phwysau Plât
  • Peiriant SkiErg
  • Beic Antur
  • Rhaffiau Brwydro
  • Dewis eang o Offer Ffitrwydd Pwrpasol
  • System Aerdymheru a System Sain
  • A LLAWER IAWN MWY!

Rhaglen Ymarfer Corff Grŵp y Gaeaf

I gyd-fynd â lansio'r Ystafell Magu Cryfder a Chyflyru'r Corff, byddwn yn diweddaru ein rhaglen ymarfer corff grŵp ac yn lansio rhaglen y Gaeaf. Bydd newidiadau ar droed yn fuan, o ddydd Llun 14 Tachwedd.