Ein Cynllun Strategol ar gyfer 2022 - 2027!
Dyma ein Cynllun Strategol ar gyfer 2022 - 2027.
Datblygwyd y cynllun trwy gyfraniadau pobl Torfaen. contributions of Torfaen Leisure Trust’s staff, trustees and stakeholders. It is a start of a 10-year commitment to achieve some ambitious goals as we continue to recover from Covid19.
Mae'n cynnwys adolygiad o'n strwythur rheoli newydd, ein prif amcanion ar gyfer ein staff a'n canolfannau, sut yr ydym yn gwasanaethu ein haelodau a sut yr ydym yn parhau i dyfu'r busnes mewn ffordd gynaliadwy. Mae arnom eisiau:
- tîm brwdfrydig, deinamig a chydnerth sy'n parhau i ymdrechu i ragori ac i ddarparu ar gyfer ein cymuned,
- cynnal ein cyfleusterau, eu hehangu a buddsoddi ynddynt, ac ar yr un pryd rhoi ystyriaeth ddifrifol i'n cyfrifoldeb dros leihau ein hôl troed carbon.
- darparu profiad sydd gyda'r gorau yn y byd ar gyfer ein cwsmeriaid: profiad sy'n gallu trawsnewid iechyd a lles ein cymunedau, a
- busnes cynaliadwy sy'n ffynnu ac yn tyfu ac sy'n rhagori ar ddisgwyliadau ein cymuned ac yn ein gosod ar lwyfan y byd.
Rydym yn eich croesawu i ymgysylltu â'r cynllun hwn, felly os hoffech ragor o wybodaeth am y ffordd y byddwn yn cyflawni'r cynllun hwn, anfonwch neges e-bost at communication@torfaenleisuretrust.co.uk