Newyddion, Newyddion

Stiwdio Seiclo a Champfa NEWYDD

Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn ymestyn ei phartneriaeth gyda Technogym, un o arweinwyr y diwydiant, gan uwchraddio'r stiwdio seiclo a chyflwyno campfa sydd â'r offer diweddaraf.

Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn falch o gyhoeddi partneriaeth gryfach eto gyda Technogym, a fydd yn golygu cyflwyno campfa newydd sydd â'r holl offer diweddaraf, i Stadiwm Cwmbrân, a stiwdio seiclo newydd i Ganolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl.

Mae'r fenter newydd hon ar y cyd ag arweinwyr y byd o ran offer campfa a ffitrwydd, yn ddatblygiad allweddol yn ymgyrch Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i ysbrydoli bywydau iachach, a'u cyfoethogi, yn Nhorfaen. Bydd yr ymdrech hon yn cefnogi canlyniadau llesiant meddwl a chorfforol aelodau'r Ymddiriedolaeth a rhanddeiliaid pwysig, gan gynnwys y GIG a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Y buddsoddiad newydd hwn yw'r cam cyntaf mewn cynllun uchelgeisiol i gyfoethogi'r cyfleusterau a'r gwasanaethau y gall Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen eu cynnig i'w haelodau, ei chlybiau a'i grwpiau a rhanddeiliaid allweddol eraill, wrth i'r Ymddiriedolaeth barhau i adfer o effeithiau deublyg COVID-19 a chostau ynni uchel.

Fe fydd y stiwdio seiclo grŵp a'r gampfa newydd gan Technogym yn cael eu gosod ym mis Rhagfyr 2023. Er mwyn rhoi blas i chi ar yr hyn sydd i ddod, dyma argraff artist o'r datblygiadau newydd:

Bydd yr offer diweddaraf sydd gan Technogym yn cael eu gosod yn lle'r holl offer yn Stadiwm Cwmbrân.

Diolch i frand Excite newydd Technogym, mae hyfforddi'n fwy o hwyl ac yn fwy o ysbrydoliaeth i bobl o bob oed a phob lefel o ffitrwydd. Mae pob math o weithgareddau'n bosibl a llond lle o opsiynau i'ch difyrru. Dewiswch eich sesiwn Cardio Technogym ar sail eich targedau personol, ac fe fydd yr hyfforddwr rhithwir yn eich tywys trwy sesiwn un i un, gan eich annog ac awgrymu lefel dwysedd ar eich cyfer. Cewch ddilyn y cyngor neu ddewis drosoch chi'ch hun. Bydd ein cyfres gyfan o offer cadio newydd yn cynnig y nodweddion unigryw hyn.

Mae ein hoffer newydd yn cynnwys,

  • Raciau Pŵer
  • Sgwat Gwregys
  • TEAMBEATS
  • Offer Excite
  • Offer Selection
  • Offer Cryfder Pure
  • Offer Skill
  • 30 beic Seiclo Grŵp gyda phrofiad technoleg ymdrochi newydd

Meddai Ben Jeffreys, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen:

"Rydyn ni'n hynod o gyffrous ein bod ni wedi ffurfio partneriaeth mor gryf gyda Technogym ac mae ein buddsoddiad yn ddechrau ar oes gyffrous newydd i Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.

"Dros y deuddeg mis diwethaf, rydyn ni wedi gwneud newidiadau mawr i'r ffordd y mae Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn gweithredu, gan gynnwys rhoi systemau newydd ar waith i gasglu adborth ein haelodau a'i fesur.

"Roedd yr adborth a gafwyd yn dangos yn glir fod angen gosod offer newydd yn lle'r hen offer ac mae'r cyhoeddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i dderbyn yr adborth hwnnw a gweithredu i roi'r profiad gorau posibl i'n haelodau.

"Rydyn ni'n cydnabod bod arnom angen buddsoddi mewn sawl agwedd arall ar ein cyfleusterau, gan gynnwys offer campfa newydd yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl, ond mae'n hollbwysig ein bod yn rheoli ein hadnoddau cyfyngedig mewn ffordd gyfrifol ac yn buddsoddi yn y dyfodol pan fo hynny'n fforddiadwy.

"Rydyn ni'n benderfynol o wireddu'r uchelgais hon ar y cyfle cynharaf posibl, ac mae'n hawydd i uchafu potensial Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn y dyfodol wrth galon pob peth a wnawn fel tîm."

Meddai Greg Haynes, Cyfarwyddwr Gwerthiant Clybiau Maes y DU, TechnoGym:

"Mae Technogym yn falch iawn o ymestyn y bartneriaeth hon gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen. Credwn y bydd buddsoddiad yr Ymddiriedolaeth yn rhoi pob cyfle posibl i gymunedau lleol fyw bywydau iachach ac yn gwella llesiant pob un. Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n helaeth gyda'r Ymddiriedolaeth gan sicrhau y gallwn ddarparu'r cyfleusterau gorau ar gyfer pob nod iechyd a ffitrwydd.

"Dewiswyd Technogym fel Cwmni Cyflenwi Swyddogol y Gêmau Olympaidd a Pharalympaidd naw gwaith yn olynol: Sydney 2000, Athens 2004, Turin 2006, Beijing 2008, Llundain 2012, Rio 2016, PyeongChang 2018, Tokyo 2020, a heddiw, Paris 2024. Bydd yr un offer yn cael eu gosod yn Stadiwm Cwmbrân ac yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl,"

O'r chwith i'r dde - Sam Bullock a Greg Haynes, Technogym Ltd, Ben Jeffreys, Prif Swyddog Gweithredol, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen ac Andy Robinson, Pennaeth Hamdden, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen

I gael rhagor o wybodaeth am ein hopsiynau aelodaeth, ewch i: