Newyddion, Mwy o Newyddion

Lansio Go Cycle Kesier

Rydyn ni'n llawn cyffro wrth gyhoeddi ein bod yn lansio ein Stiwdio Beicio Grŵp Keiser NEWYDD SBON.

Rydyn ni'n llawn cyffro wrth gyhoeddi ein bod yn lansio ein Stiwdio Beicio Grŵp Keiser NEWYDD SBON. Rydyn ni wedi ailwampio'r stiwdio a hefyd wedi buddsoddi mewn offer beicio Keiser M3i o'r ansawdd gorau i gynnig gwefr synhwyraidd a rhyngweithiol i gyfoethogi'ch profiad o GoCycle.

M3i - y beic sy'n codi'r bar!

Mae'r datblygiad hwn wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth ein cwsmeriaid anhygoel. Oherwydd eich teyrngarwch chi, rydyn ni wedi gallu ail-fuddsoddi pob ceiniog yr ydych yn ei gwario, er mwyn darparu ein profiad GoCycle Keiser newydd ac uwchraddio'r profiad yn arbennig ar eich cyfer chi!

Meddai ein Rheolwr Iechyd a Llesiant, Eleanor Roberts:

"Rydw i mor falch o gyflwyno Beiciau Dan Do M3i Keiser i Stadiwm Cwmbrân! Cyflawnwyd y prosiect diolch i adborth gwerthfawr ein cwsmeriaid am y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yn Stadiwm Cwmbrân a'n dosbarthiadau GoCycle a chyflwr yr hen feiciau. Yn dilyn yr adborth gwerthfawr hwn rydym wedi gallu edrych ar lawer o opsiynau ac ymchwilio i'r farchnad a'r tueddiadau ym maes beicio ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt ar hyn o bryd. Y prif nod trwy gydol y prosiect hwn oedd sicrhau y byddai GoCycle yn Stadiwm Cwmbrân yn gallu cynnig profiad rhyngweithiol a synhwyraidd ar gyfer ein haelodau. Hoffwn ddiolch i Fwrdd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen am gymeradwyo'r prosiect hwn a diolch hefyd i David Evans o Gym Systems (Penarth), sydd wedi bod yn allweddol wrth i ni ailwampio a chyflwyno'r beiciau arbennig hyn."

CYNNYDD YN Y NIFEROEDD

Gan ein bod ni wedi prynu'r beiciau hyn, rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cynyddu'r niferoedd YMHOB dosbarth GoCycle i 25 o ddydd Mercher 1 Rhagfyr!! Yn ogystal, byddwn hefyd yn ychwanegu dosbarthiadau at ein hamserlen o 13 Rhagfyr ac oherwydd ein system bwcio 8 niwrnod, bydd y rhain yn fyw ac ar gael i'w bwcio o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr - felly cadw'ch lygad ar y system!

Mae ein System Keiser newydd yn ddosbarth rhyngeithiol sy'n rhoi ystadegau byw i'r beicwyr yn ystod eu sesiwn ymarfer a dyluniwyd y beiciau trwy feddwl am y beiciwr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y beiciau, gan gynnwys apiau defnyddiol y gallwch eu lawrlwytho i wella'ch profiad eto, ar wefan Keiser:

BEICIO DAN DO KEISER

Wedi'i ddylunio o'ch cwmpas chi

Beic M3i Keiser yw'r unig feic beicio grŵp dan do yn y diwydiant sydd wedi'i ddylunio'n llwyr o'ch cwmpas CHI - hynny yw CHI y beiciwr, CHI perchennog y gampfa, a CHI sy'n dechnegydd. Mae nodweddion yr M3i sy'n mynd â'r beic i'r lefel nesaf yn cynnwys:

  • Signal Bluetooth® diwifr ar gyfer API agored, i lechi a ffônau clyfar
  • Yr olwyn gefn wedi'i dylunio'n er mwyn amddiffyn yn well rhag chwys a rhydu
  • Belt Gyrru Poli-F sy'n cynnal y tensiwn ei hun, a lle nad oes angen gwaith cynnal a chadw
  • Gwrthiant magnetic sy'n sicrhau sesiwn dawel a llyfn
  • Pedal Beic Keiser chwyldroadol a ail-ddyluniwyd
  • Ffrâm siâp V sy'n addas i feicwyr o bob maint

Allwn ni ddim aros i chi fod gyda'r cyntaf i fwynhau ein Profiad GoCycle newydd yn Stadiwm Cwmbrân, a byddai'n wych cael eich adborth - cofiwch gysylltu i ddweud beth yw'ch barn chi!

Rhoi Adborth i Ni