Dosbarthiadau Ffitrwydd
Mae yna ddewis eang o ddosbarthiadau ymarfer corff ar gael yng nghyfleusterau Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, o'r rhaglen 'Zumba' sydd wedi cael ei chanmol yn fawr, i ymarfer corff cyflym, difyr ac egnïol y Beicio Grŵp.
Dosbarthiadau Ymarfer Corff
Mae gan ein hyfforddwyr y cymwysterau i gyflwyno ymarfer corff yn ddiogel ac yn effeithiol i bawb. Mae'r dosbarthiadau ymarfer corff yn gymdeithasol ac yn hwyl. Ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd.
Please Note - We recommend that you bring plenty of water to keep you hydrated during our classes. If you are attending Yoga, Pilates or PoundFit please bring your own mats as these are not provided.
Blaenoriaethwch Eich Lles
Gallwch drefnu lle yn ein Dosbarthiadau Ymarfer Corff hyd at 8 niwrnod ymlaen llaw trwy'r opsiwn 'bwciwch nawr' isod, trwy Ap Ffôn Symudol TLT neu drwy ffonio 01633 627100.
Cyn i chi drefnu eich dosbarth cyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwyddo â'r Amodau a Thelerau ar gyfer Bwcio.
Dosbarthiadau MOSSA
Dyma beth i'w ddisgwyl.
Mae Ymladd Grŵp yn weithgaredd i unrhyw un sydd eisiau ymarfer corff heriol, athletaidd sy'n ysgogi. Mae'n ffrwydrol, yn drydanol ac yn wefreiddiol. Mae'r symudiadau'n gyrru profiad cardio anhygoel sydd hefyd yn cryfhau pob rhan o'r corff. Mae hefyd yn ffordd wych o gael gwared ar y straen yn eich bywyd.