Atgyfeiriadau ar gyfer Ymarfer Corff
Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn darparu cyfleoedd ymarfer corff amrywiol o ansawdd uchel i drigolion Torfaen.

Ymddiriedolaeth
Cynlluniwyd y cynllun hwn ar gyfer y rheiny nad ydynt yn actif yn gorfforol ac sydd â chyflwr meddygol. Mae'n gyfle i gael mynediad at raglen ymarfer corff o ansawdd uchel sydd o dan oruchwyliaeth, er mwyn gwella iechyd a lles.
Mae Stadiwm Cwmbrân a Chanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl yn cynnig y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn Nhorfaen. Cynigir dewis eang o weithgareddau yn y gampfa ac mewn dosbarthiadau. Ceir mwy na 70 o weithgareddau yr wythnos i ddewis ohonynt yn Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen.
Seicolegol - Y Buddion
Dyma rai o'r pethau y mae pobl wedi eu dweud:
"Rwy'n teimlo llai o bryder a straen"
"Mae fy hyder a fy hunan-barch wedi gwella"
"Mae bod yn fwy actif wedi fy helpu i roi'r gorau i smygu"
"Roedd y sesiynau gweithgaredd yn gyfle i mi gael amser i mi fy hun"
"Mae fy ngwraig yn dweud fy mod yn edrych lawer yn hapusach"
"Cymerais fwy o gyfrifoldeb dros fy iechyd fy hun"


Cymdeithasol - Y Buddion
Dyma rai o'r sylwadau:
"Roedd yn gyfle da i gwrdd â phobl eraill â'r un pryderon â fi"
"Fe wnaeth y sesiynau i mi fynd allan o'r tŷ a rhoddodd ddiddordeb newydd i mi"
"Fe wnes i ffrindiau newydd a mwynhau'r sgyrsiau gawson ni"
“Rwy’n teimlo’n llawer mwy heini ac yn gallu chwarae gyda fy wyrion a’m hwyresau yn hirach nawr”
Os ydych yn teimlo y byddech yn elwa ar y cynllun, ac rydych yn 16 oed neu'n hŷn ac yn addas i ymuno, yna siaradwch â'ch meddyg teulu/nyrs practis/gweithiwr iechyd proffesiynol ynglŷn â chael eich atgyfeirio.
Bydd eich meddyg teulu/nyrs practis/gweithiwr iechyd proffesiynol yn llenwi ffurflen atgyfeirio ac yn ei hanfon at y tîm Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Yna bydd aelod o Dîm Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Torfaen yn cysylltu â chi i drefnu ymgynghoriad. Yn ystod yr ymgynghoriad byddant yn esbonio'r cynllun yn fanwl a bydd y gweithiwr ymarfer corff proffesiynol yn darganfod ychydig mwy am eich hanes o ran iechyd ac yn eich helpu i ddewis rhaglen o ymarfer corff sy'n addas i chi, gyda gweithgareddau a fydd yn hwyl, yn werth chweil ac yn eich helpu i fagu ffitrwydd.
Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac mae wedi bod ar y gweill ers 2006 er mwyn safoni cyfleoedd ar gyfer atgyfeiriadau ymarfer corff ar draws pob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru.
Mae’r Cynllun wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Byrddau Iechyd Lleol.
Mae'r Tîm Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yma i'ch helpu i gyflawni eich nodau o ran gweithgaredd corfforol ac mae'n gallu cynnig cyngor a chymorth.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y dolenni isod neu cysylltwch â'r Tîm Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ar 01495 742232.


