LEARN TO SWIM WITH TLT
YMDDIRIEDOLAETH HAMDDEN TORFAEN
GYRFA YM MAES HAMDDEN
aelodaeth sy'n ddiguro
Start your health and wellbeing journey today
Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen
Ein Diben
Buddsoddi i drawsnewid bywydau a'u gwella.
Ein Gweledigaeth
Darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf sy'n trawsnewid lles ein cymuned.
Amdanom ni
Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen (YHT) yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac mae ganddo statws elusennol (rhif elusen gofrestredig 1152301). Mae bod yn elusen yn golygu bod yr holl arian a dderbynnir gan ein cwsmeriaid yn cael ei ail-fuddsoddi i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer cymuned Torfaen.
Mae YHT yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau hamdden ar draws Bwrdeistref Torfaen.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaethau ar 5 safle:
- Canolfan Byw Egnïol Bowden
- Stadiwm Cwmbrân
- Canolfan Hamdden Fairwater
- Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl
- Snowsport Torfaen
Ein Diben
Buddsoddi i drawsnewid bywydau a'u gwella.Ein Gweledigaeth
Darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf sy'n trawsnewid lles ein cymuned.Ein Blaenoriaethau Strategol
-
- Ein hamgylchedd
- Ein pobl
- Eich cymuned / Eich Ymddiriedolaeth
- Ein Gwasanaethau
- Ein Twf.
Cwrdd â'n Tîm Rheoli
Andy Robinsin
Ymunodd Andy ag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen yn gynnar yn 2022 er mwyn parhau i ddatblygu ei yrfa ac i ennill profiad mewn rôl mwy strategol.
Wedi iddo ddechrau yn ei rôl gyntaf ym maes hamdden fel Cynorthwy-ydd Campfa, aeth ymlaen i fod yn Rheolwr Campfa yn ei Ganolfan Hamdden leol cyn cael dyrchafiad i rôl Rheolwr Cynorthwyol, Rheolwr y Ganolfan ac yna goruchwylio dwy Ganolfan.
Mae wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda phobl dalentog iawn. Dydych chi ddim yn gwybod pryd fydd y cyfle nesaf yn codi ac, yn yr un modd, dydych chi ddim yn gwybod pwy sy'n eich gwylio chi ac ar bwy yr ydych chi'n creu argraff wrth weithio.
Mae Andy'n frwdfrydig iawn ynghylch ei deulu a nifer o gampau, yn enwedig tîm Newcastle United.
Mae wedi bod wrth ei fodd erioed â chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac arweiniodd y diddordebau hyn at radd mewn Gwyddor Chwaraeon o Brifysgol Portsmouth.